AMDANAF I
Rydw i ar gael i helpu trigolion Wrecsam gydag addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, a materion lleol eraill.
AMDANAF I
Cefais i fy magu yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac rydw i wedi byw a gweithio yn Wrecsam ers dod yn oedolyn.
Cyn fy ethol i Senedd Cymru, treuliais 20 mlynedd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Bûm yn gweithio, hefyd, fel Cynorthwyydd Etholaethol i Ian Lucas, cyn AS Wrecsam.
Cefais fy ethol i Senedd Cymru ym mis Mai 2007 ac roeddwn i’n aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, y Pwyllgor Cynaliadwyedd, y Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5.
Ym mis Rhagfyr 2009, cefais fy phenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau. Ar ôl cael fy ailethol ym mis Mai 2011, cefais fy phenodi’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ym mis Mawrth 2013, cefais fy phenodi’n Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ac, ym mis Medi 2014, cefais fy mhenodi’n Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
Ar ôl cael fy ail-ethol ym mis Mai 2016, cefais fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac ym mis Tachwedd 2017, cefais fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Daeth Mark Drakeford AS yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr 2018 a chefais fy mhenodi’n Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Ar ôl cael fy ailethol ym mis Mai 2021, cefais fy mhenodi’n Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
Mae fy niddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, datblygu economaidd, tai a materion sy’n ymwneud â phlant.
Y tu allan i wleidyddiaeth, mae fy niddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, cerdded a chefnogi Clwb Pêl-droed Wrecsam – roeddwn i’n gyfarwyddwr etholedig Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn flaenorol. Rwyf hefyd wedi gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol ac mae gen i ddwy ferch.
Fel yr Aelod o’r Senedd ar gyfer Wrecsam, mae’n hanfodol fy mod yn sicrhau bod yr etholaeth yn cael y cyllid a’r cymorth angenrheidiol er mwyn iddi allu mwynhau’r manteision economaidd a chymdeithasol y mae’n eu haeddu.
Nod y wefan hon yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch ar bob cyfrif.
YNGLŶN Â WRECSAM
Etholaeth Wrecsam
Mae Etholaeth Wrecsam ar gyfer y Senedd yn cwmpasu’r un ardal ag Etholaeth Wrecsam ar gyfer Senedd y DU. Mae hyn yn cynnwys y Wardiau Cymunedol a ganlyn:-
Acton, Parc Borras, Brynyffynnon, Cartrefle, Erddig, Garden Village, Gresffordd, Grosvenor, Dwyrain a De Gwersyllt, Gogledd Gwersyllt, Gorllewin Gwersyllt, Hermitage, Holt, Acton Fechan, Llai, Maesydre, Marford a Hoseley, Offa, Queensway, Rhosnesni, Yr Orsedd, Smithfield, Stansty, Whitegate a Wynnstay.
Dinas Wrecsam
Wrecsam yw’r mwyaf o blith trefi a dinasoedd gogledd Cymru, a’r bedwaredd ardal drefol fwyaf yng Nghymru ar ôl Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Yng Nghyfrifiad 2011, roedd gan Wrecsam boblogaeth o 61,603. Fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi’r Frenhines, dyfarnwyd statws dinas i Wrecsam yn 2022.
Roedd y dref yn draddodiadol yn un ddiwydiannol a oedd yn dibynnu ar y diwydiannau glo a dur, ond mae ei heconomi wedi arallgyfeirio’n llwyddiannus ac wedi denu mewnfuddsoddiad yn y degawdau diwethaf. Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yw un o’r rhai mwyaf yn Ewrop, ac yn cynnwys cwmnïau mawr fel Kellogg’s, JCB, Solvay a Wockhardt.
Mae Wrecsam o fewn golwg ucheldiroedd godidog Cymru. Mae’r ddinas wedi’i lleoli ar y ffin â Lloegr ger rhan isaf Dyffryn Dyfrdwy, ac yn croesawu cymysgedd amrywiol o bobl i’w chymuned, tra’n ymfalchïo yn ei threftadaeth fel tref lofaol Gymreig. Mae pentrefi fel Llai, Gresffordd a Gwersyllt yn arddangos nodweddion cymunedau glofaol clos.
Mae canol dinas Wrecsam wedi gweld ailddatblygu sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, a amlygwyd gan yr adnodd cymunedol diwylliannol, Tŷ Pawb ac Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth. Yn ogystal â bod yn gartref i’r clwb byd-enwog, Clwb Pêl-droed Wrecsam, cynhelir digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon yn rheolaidd yng nghanol ac o gwmpas y ddinas.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Choleg Cambria elfennau nodedig o sector addysgol trawiadol ac mae Ysbyty Maelor yn gweithio’n agos gyda nhw i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd leol.
Mae Wrecsam yn ddinas uchelgeisiol gyda digon i’w weld a’i wneud. Anogir ymwelwyr i weld drostynt eu hunain faint mae’r ddinas wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf.
Cyfryngau Cymdeithasol
‘Hoffwch’ a ‘Dilynwch’ fy nghyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrchoedd, y newyddion a'r buddsoddiadau diweddaraf yn Wrecsam.
Load More
CYSYLLTU
Fel eich Aelod o’r Senedd (AS), gallaf helpu etholwyr ar amrywiaeth o faterion, fel addysg, yr amgylchedd, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, trafnidiaeth, a thai.
Defnyddiwch y ffurflen gyswllt i gysylltu â mi. Cofiwch roi cymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad a manylion llawn y mater dan sylw.
Rydw i hefyd yn cynnal cymorthfeydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gan ddefnyddio Zoom/Microsoft Teams. Ym mhob sesiwn, byddaf ar gael i helpu gyda materion lleol. Cliciwch yma i drefnu apwyntiad.
-
01978 355743
-