CYMORTHFEYDD
Rwy’n cynnal cymorthfeydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gan ddefnyddio Zoom/Microsoft Teams. Ym mhob sesiwn, byddaf ar gael i helpu gyda materion lleol.
Rwy’n cynnal cymorthfeydd wyneb yn wyneb rheolaidd fel eich Aelod o’r Senedd (AS). Mae gen i gymorthfeydd cyngor ar-lein hefyd drwy Zoom/Microsoft Teams (drwy apwyntiad yn unig). Cysylltwch â mi drwy e-bost os na allwch gyrraedd fy nghymorthfeydd.
Yn y cymorthfeydd, byddaf ar gael i gynnig cymorth gydag amrywiaeth o faterion, fel addysg, materion amgylcheddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, priffyrdd, trafnidiaeth, a thai.
Gall eich Cynghorwyr ac Aelodau Seneddol helpu gydag amryw faterion eraill, fel y dreth gyngor, casglu biniau, materion tai, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion a ffyrdd a thaliadau, treth ac yswiriant gwladol, budd-daliadau, pensiynau a mewnfudo.
-
01978 355743
-